Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi

Beth nesaf?

 3 Chwefror 2016 - Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

 

Yn bresennol

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Christine Chapman AC

Suzy Davies AC

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Eluned Parrott AC

Robin Lewis – Swyddog Cymorth Christine Chapman AC

Craig Lawson – Swyddog Cymorth Suzy Davies AC

Catherine Thomas - Swyddog Cymorth i Janice Gregory

 

 

Chwarae Teg

 

Joy Kent

Christine O’Byrne

Anne Howells

 

Attendees

 

Hannah Blythyn, Unite

Lili Craemer - Costains

Shirley Davis Fox - ISA Training

Dawn Elliott - ISA Training

Dr Alison Parken – Prifysgol Caerdydd

Sian Price - BT

Rayner Rees – Soroptimydd

Sara Robinson – Brighter Future Communications

Beth Titley – Gyrfa Cymru

 

Ymddiheuriadau

 

Jocelyn Davies AC

David Melding AC

 

Rachel Bowen- Ffederasiwn y Busnesau Bach

Alison Brown - City and Guilds

Ruth Davies - NGHS Cymru

Helen Humphries

James Moss – Cwmni Cyfreithiol Slat

 

Croeso a chyflwyniad gan y Cadeirydd

 

Dechreuodd y Cadeirydd y cyfarfod a chroesawodd bawb i’r wythfed cyfarfod a chyfarfod terfynol y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi.

 

Fy enw i yw Christine Chapman. Rwy’n Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon ac rydw i wedi bod yn Gadeirydd ar y Grŵp Trawsbleidiol hwn ers ei ffurfio. Rwyf wedi mwynhau’r sesiynau a gynhaliodd y Grŵp.

 

Mae’r gymysgedd o ddadansoddiad arbenigol, a thystiolaeth uniongyrchol wedi bod yn gyfuniad pwerus. Dwi’n gwybod ei fod hefyd wedi siapio a llywio fy ngwaith o ran y  Cyfarfod Llawn, a fy ngwaith craffu ar y Llywodraeth yn y Siambr ac mewn pwyllgorau. Rwyf hefyd wedi sylwi bod yr arddull gweithio yn ddatblygiad braf. Mae ein fformat o lunio papur ar ôl pob cyfarfod wedi rhoi cydlyniad i’n trafodaethau.

 

Mae hefyd wedi rhoi pwrpas i’r Grŵp sy’n dangos bod budd i grwpiau trawsbleidiol, gan y gallant ymchwilio i faterion ac achosion y gellir eu gwthio i’r neilltu neu eu hanwybyddu fel arall, a hyrwyddo’r materion hyn. Mae Chwarae Teg wedi dwyn y rhain at ei gilydd mewn adroddiad cryno ardderchog sy’n cwmpasu pob un o’n canfyddiadau a’n hawgrymiadau ar gyfer tymhorau’r Cynulliad yn y dyfodol. Byddaf yn hyrwyddo hwn yn fy mhlaid, a gobeithio y bydd aelodau eraill yn gwneud yr un peth.

 

Mae heddiw yn gyfle i fyfyrio ar ein trafodaethau a’n hadroddiad, ac rwy’n falch iawn i groesawu ein panel terfynol o siaradwyr.

 

Ein prif siaradwr heddiw yw Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, sy’n wir yn fenyw nid yn unig yn yr economi, ond sy’n gyfrifol am yr economi. Mae Edwina wedi bod yn Aelod Cynulliad ers y dechrau’n deg, ac mae wedi treulio ei gyrfa yn y Cabinet, â chyfrifoldeb am Gyllid, Llywodraeth Leol, Cyfiawnder Cymdeithasol, Iechyd, ac ers 2011, am economi Cymru.

 

Rwy’n gwybod y bydd yn rhaid i Edwina fynd i apwyntiad arall am 12.45pm - felly bydd Eluned Parrott a Suzy Davies yn ymuno â mi am 12.45 i drafod canfyddiadau’r Grŵp. Roedd Jocelyn Davies o Blaid Cymru i fod i ymuno â ni ond roedd digwyddiad arall wedi’i rhwystro.

 

Daeth Eluned yn Aelod o’r Cynulliad yn 2011, ac ers hynny mae wedi siarad dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ar yr economi. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o’r Grŵp Trawsbleidiol ers ei ffurfio. Hefyd ymunodd Suzy â Phlaid Geidwadol Cymru yn 2011, a bydd yn siarad am ei rhan ym maes diwylliant a thwristiaeth.

 

Am oddeutu 1.10pm byddaf yn trosglwyddo’r awenau i Joy Kent a Christine O’Byrne, a fydd yn edrych am awgrymiadau ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â’n gwaith yn y meysydd hyn. Ynghyd ag Aelodau Cynulliad eraill, bydd yn rhaid i mi adael o gwmpas yr amser hwn i fynd i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Gen i y mae’r cwestiwn cyntaf i ddweud y gwir, ond mae croeso i chi aros, i orffen y lluniaeth a pharhau â’r drafodaeth.

 

Hoffwn gloi’r rhan hon drwy ddiolch i bob unigolyn a grŵp sydd wedi ymgysylltu â’n sesiynau dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Joy, Christine ac Anne o Chwarae Teg am eu holl gefnogaeth, eu hawgrym bod menywod yn yr economi yn thema berffaith ar gyfer grŵp trawsbleidiol, ac am eu gwaith caled yn darparu ysgrifenyddiaeth y grŵp. Diolch Weinidog, edrychwn ymlaen at wrando ar eich anerchiad.

 

 

Edwina Hart AC - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Hoffwn weld rhagor o fenywod yn cael eu hethol i’r Cynulliad, ond y cwestiwn yw, lle y mae menywod yn gweithio yng Nghymru ac ym mha sectorau? Mewn sectorau a sgiliau ar raddfeydd cyflog isel ydynt, ac mae’n bwysig ein bod yn adnabod rhai o’r menywod. Mae angen y bobl gywir yn eu lle i sicrhau’r newid.

 

Entrepreneuriaid - mae angen i ni wneud rhagor dros fenywod. Mae rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau menywod fel modelau rôl yng Nghymru na’r Alban ac Iwerddon. Mae angen i ni gydnabod meysydd lle’r ydym yn gwneud yn well nag eraill, a’u datblygu. Rydym am i Gymru fod yn flaenllaw ar lwyfan y byd.

 

Gofal plant - mae hwn yn fater pwysig bob amser. Dylai gofal plant gael ei gydnabod a’i werthfawrogi fel proffesiwn, a dylid talu amdano yn unol â hynny. Mae’n bwysig edrych ar y seilwaith addysg a’r seilwaith economaidd - ac mae’n allweddol ein bod yn rhannu rôl gofal rhwng y ddau riant hefyd.

 

TGCh – Clywyd negeseuon allweddol gan siaradwyr benywaidd bod angen gwerthu’r diwydiant TGCh i fenywod – mae angen newid y feddylfryd o’r hyn y mae’r diwydiant yn ei ddarlunio ar hyn o bryd.

 

Adeiladu – mae grŵp da iawn o’r enw ‘Women in Roofing Management’ ac mae hwn yn un o nifer o grwpiau y mae angen i ni weithio gyda hwy i sicrhau newid.

 

Mae menywod yn y diwydiant niwclear a’r rhaglen niwclear yn awyddus i fynd i’r afael â materion cydraddoldeb.

 

Mae cynyddu nifer y menywod sy’n gweithio mewn galwedigaethau anhraddodiadol yn faes allweddol. 

 

Mae angen inni geisio dylanwadu ar amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae llawer o rieni sy’n edrych ar ddiwydiant mewn ffordd hen ffasiwn. Mae’r byd wedi newid yn awr.                                                                                                                                               

 

Y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol  Mae rhai modelau rôl da ar y panel ond nid yw menywod lle y dylent fod. Yn aml nid yw profiadau bywyd yn cael eu cydnabod. Bellach gwelir menywod yn rhoi eu sylwadau ar raglenni teledu fel Newsnight ynghylch materion economaidd, ond y pethau na chânt eu lleisio sy’n broblem heddiw yn hytrach na’r geiriau a gaiff eu llefaru.

 

Diolchodd Christine i Edwina am roi o’i hamser, a gofynnodd am ystyriaethau a syniadau ar gyfer etifeddiaeth y grŵp.

 

Christine Chapman AC  - Cyflwynodd ddadl fer gydag ymateb gan Julie James. Nid oes modd gwahanu gwaith o’r hyn sy’n digwydd mewn bywyd menyw. Nid yw menywod yn disgwyl ennill cyflogau cystal â’u partneriaid, ac maent yn disgwyl ysgwyddo’r prif gyfrifoldebau gofal plant.

 

Suzy Davies AC -  gwelai hi’r adroddiad yn un defnyddiol, ac mae’r syniadau ynddo yn treiddio i’w maniffesto, ond nid ydym yn trafod plaid wleidyddol heddiw.

 

Addysg - Nid oes gan gyrsiau galwedigaethol elfen fusnes wedi’i ymgorffori ynddynt yn aml, h.y. dylai menywod ifanc sy’n dechrau gweithio ym maes gwallt a harddwch fel galwedigaeth, er enghraifft, gael eu hannog i ddechrau eu busnes / menter eu hunain.

 

Cyfrifoldeb gofalu - nid oes unrhyw amddiffyniad cyfreithiol i fenywod hŷn sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cymryd amser i ffwrdd i ofalu am riant neu berthynas hŷn. Gall menter fod yn gyfle gwych i’r grŵp hwn ddefnyddio eu sgiliau. Sut y gallwn ni eu cefnogi i ystyried busnes fel opsiwn iddynt hwy?

 

Rydym yn sôn llawer am y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod, ond beth am y bwlch cyflog rhwng menywod?

 

Eluned Parrott AC -  Nododd pa mor bwysig yw bod menywod heddiw yn sylweddoli nad yw’r frwydr wedi’i hennill, a dim ond pan fydd plant ganddynt y mae hyn yn dod yn amlwg. Mae diffyg cydraddoldeb o ran gofal plant - dylai rhieni fod yn bartneriaid cyfartal yn yr economi ac mewn bywyd cartref. Fel y mae rhieni’n heneiddio, mae cyfrifoldebau gofalu am y to hŷn yn cynyddu, ac yn aml daw gofal am rieni gŵr / bartner hefyd yn rhan o gyfrifoldeb y fenyw.

 

Susy Davies AC -  Y sefyllfa weithiau yw, os yw menyw yn dymuno mynd yn ôl i’r gwaith yn rhan-amser, nid yw’r cyflogwr yn ei chymryd hi o ddifrif o bosibl, ac felly ni chaiff ei hystyried ar gyfer dyrchafiadau swyddi.

 

Awgrymiadau gan Aelodau’r Cynulliad ar gyfer y Cynulliad nesaf oedd:

                                                                                                                           

·         Dylai’r adroddiad gael ei ddwyn i sylw’r Cynulliad nesaf fel rhan o ddigwyddiad - cael ffrindiau i ddweud wrth Aelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol y dylai’r mater gael sylw ganddynt.

·         Gofynnwch am ymchwiliad i gyfle cyfartal yn yr economi.

 

Gadawodd Christine, Eluned a Suzy y cyfarfod.

 

Yna trosglwyddwyd yr awenau i Joy Kent ar gyfer y drafodaeth gyda phawb a oedd yn bresennol.

 

Alison Parken - Prifysgol Caerdydd -  Pam mae gennym ddiwrnod gwaith 9am tan 5pm?  Mae angen i ni fabwysiadu dull mwy hyblyg o weithio fel bod y fam yn cael treulio amser gyda’i phlentyn / plant cyn iddynt fynd i’r ysgol ac yna gall hi fynd ymlaen i waith. Mae straen yn un o brif achosion salwch, ac mae ceisio cael cydbwysedd rhwng gwaith a gofal mewn gweithleoedd anhyblyg yn cynyddu straen.

 

Beth Titley - Gyrfa Cymru -  Mae angen i feddylfryd cwmnïau / sefydliadau newid. Gweithio ystwyth yw’r ffordd ymlaen. Yn un o’n cyfarfodydd blaenorol ystyriwyd gwahanol ffyrdd o weithio, ac mae angen hyrwyddo’r rhain i gyflogwyr.

 

Joy Kent - Chwarae Teg -  yn Chwarae Teg,  nid ydym yn rheoli amser, rydym yn rheoli canlyniadau, drwy broses a elwir yn Cyflawni. Mae gweithio mewn ffordd wahanol yn dod â llwyddiant yn y gwaith ac yn darparu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn well. Rhaid inni gofio bod dynion yn awyddus i dreulio amser gyda’u plant yn ogystal. O ran y cwestiwn am y bwlch cyflog ymhlith menywod - tybed a oes gan Alison Parken unrhyw sylwadau ar hynny?

 

 

Alison Parken - Prifysgol Caerdydd -  Mae menywod sy’n mynd yn ôl i’r gwaith yn rhan-amser yn aberthu cyfraniad enillion at eu bywyd proffesiynol, gan eu bod  yn gweithio’n llawn-amser yn y pen draw, ond yn cael tâl rhan-amser mewn sefyllfaoedd lle nad oes dim cyfleusterau gweithio hyblyg ar gael yn y sefydliad. Mae cyflogwyr yn gweld gweithio rhan-amser fel diffyg ymrwymiad. Mae angen sicrhau newid o ran diwylliant sefydliadol, er mwyn gwerthfawrogi pawb o’r gweithlu.

Er bod y gyfraith yn caniatáu i unigolion ofyn am gael gweithio’n hyblyg, sy’n eu galluogi i weithio’n rhan-amser, os bydd rhywun wedyn yn awyddus i gynyddu eu horiau eto, nid oes dull ar waith ar gyfer gwneud hyn.

 

Sara Robinson – Brighter Future Communications -  Mae angen i waith fod yn strwythuredig iawn, mae’n ddigon teg o ran bod ‘gwaith cywasgedig’ yn cael ei gynnig ond gall fod yn anodd i’w gyflawni’n ymarferol.

 

Catherine Thomas - Swyddog Cymorth Janice Gregory -  Mae’n gweithio oriau cywasgedig mewn wythnos, ond dywedodd ei bod yn dal i ffonio’r swyddfa ar ddydd Gwener i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn - yn ei chael hi’n anodd anghofio am y swyddfa.

Gyda’r Etholiad sydd ar y gweill, mae 13 o Aelodau yn rhoi’r gorau i’r gwaith, a bydd rhai yn colli eu seddi, felly dylid cynnal digwyddiad pan fydd y Cynulliad newydd wedi’i sefydlu. Dylid arddangos yr hyn sy’n cael ei gyflawni eisoes a datblygu’r gwaith. Byddai’n ffordd dda o adnabod hyrwyddwyr yn y Cynulliad nesaf, ac yn gyfle da i gynnwys Aelodau gwrywaidd i helpu i gefnogi’r achos.

Shirley Fox-Davis -  A oes modd i ni ddysgu o’r gwaith sydd wedi’i wneud yn Sweden, Norwy a Denmarc?

 

Joy Kent - Chwarae Teg - Daeth dirprwyaeth o’r Ffindir draw yma i Gymru i weld sut rydym ni’n gweithio, ac i ddysgu oddi wrthym. Un o’r problemau mwyaf yw bod llawer o bobl eisiau gofal plant o safon Sgandinafaidd a threthi Americanaidd. 

 

Ar 14  Ebrill rydym yn cynnal ein digwyddiad Gwobrau Womenspire, i ddathlu gwaith diddorol sy’n cael ei wneud gan fusnesau a sefydliadau, nad oes fawr neb yn sylwi arno ar hyn o bryd. Mae’n bwysig hyrwyddo modelau rôl o’r fath.

 

Alison Parken - Prifysgol Caerdydd -  yn  Sweden, mae’r wladwriaeth yn ystyried mai ganddi hi y mae’r cyfrifoldeb dros blant, ac mae’n sicrhau bod gwerth yn cael ei roi ar y proffesiwn gofal plant a’i fod yn talu’n dda.

 

Mae gan y wefan WAVE becyn cymorth cyflog cyfartal sy’n dangos y bwlch cyflog sy’n bodoli mewn gwahanol sectorau.

 

Fran Smith -  Ceir canfyddiad mai elw diwydiannau gwerthfawr yw’r mesur o’u llwyddiant. Byddai sicrhau bod lles a ffordd o fyw yn fesur o lwyddiant yn sicrhau bod pethau’n fwy cynhwysol.

 

Argymhellion i fwrw ymlaen â hwy

·         Cyflwyniad i’r weinyddiaeth newydd – y Llywodraeth nesaf.

·         Parhau i siarad ag Aelodau, yn enwedig llefarwyr economaidd.

·         Y Grŵp wedi bod yn werthfawr – ni ddylem fod ag ofn parhau i gyfathrebu â’n gilydd.

·         Mae cadw menywod yn yr economi ar y rhestr o flaenoriaethau.

·         Mae angen perswadio Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad nesaf i edrych ar gyfleoedd cyfartal yn yr economi.

·         Anfon negeseuon e-bost at ddarpar Aelodau etholedig, a’u cael i alw am rywbeth.

·         Cael pobl i siarad âg Aelodau Cynulliad – a gofyn iddynt, beth ydych chi am ei wneud i wneud gwahaniaeth i mi?

 

Clowyd y cyfarfod gan Joy Kent, a ddiolchodd i Aelodau’r Cynulliad am eu cefnogaeth a phawb arall a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a’u hargymhellion yn ystod cyfnod y Grŵp Trawsbleidiol.